Siarter Iaith Gymraeg

Filmmaking in Classroom
Filmmaking in Classroom

Ages

All ages

Siarter Iaith Gymraeg ac Into Film

(click here to find English version of the Welsh Language Charter page/ Cliciwch yma i fynd at Fersiwn Saesneg o waith Siarter Iaith Gymraeg)

Nod syml y Siarter iaith yw arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o'r Gymraeg ac i ysbrydoli ein plant a'n pobl ifanc i ddefnyddio'u Cymraeg ymhob agwedd o'u bywydau.

Mae Into Film Cymru yn gefnogol iawn i'r fenter yma ac yn awyddus i gefnogi ysgolion sy'n mentro ar eu taith i "gamu tua'r copa".

Mae mesur cynnydd yn angenrheidiol wrth weithredu'r siarter iaith, ac mae ffilm yn gyfrwng gwych i'ch helpu i gasglu'r dystiolaeth yma.

Nod y dudalen hon yw darparu arwieniad ichi am yr holl adnoddau sydd gan Into Film i'ch helpu chi i hybu'r defnydd o'r iaith.

Creu ffilm wrth greu ffilm byddwch chi'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ehangu eu geirfa, datblygu eu hyder i siarad Cymraeg a dysgu terminoleg newydd.

Defnyddiwch ein canllawiau creu ffilm boed yn ffilmio cyflwyniadau yn y dosbarth, crynhoad o brosiect, fideos o weithgareddau, rhaglen ddogfen, cyfweliadau neu'n ddrama. Gellir gweld enghreifftiau o sut y mae ysgolion wedi creu gwahanol ffilmiau yma; yn eu plith mae hyd yn oed ffilm fer ynglyn a beth yw'r Siarter Iaith.

Adolygu ffilm -  mae creu addolygiad o ffilm yn sgil sy'n rhoi llwyfan i blant a phobl ifanc ddefnyddio'u gallu ysgrifenedig a siarad mewn fformat neu arddull newydd.

Mae'n adnoddau adolygu yma i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau yma mewn awyrgylch dosbarth, drwy waith grwp neu unigol.

Dathlu Cymru ar Ffilm pa ffordd well o ddathlu a chodi ymwybyddiaeth am ein hanes, tirwedd, chwedlau, natur, diwylliant a threftadaeth ein gwlad na chyflwyno Cymru ar ffilmGellir hefyd edrych ar lwyddiant talent o Gymru yn y diwydiant ffilm!

Ffilmiau am Gymru/Yn y Gymraeg

Eisteddwch mewn stafell dywyll a dianc i fyd y ffilm drwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch ar y dewis o blith ein catalog yma.

Mae nifer o ffilmiau wedi cael eu creu yn ystod y blynyddoedd dwethaf, Mae ysgolion  Into Film Cymru wedi cynhyrchu nifer o ffilmiau dros y blynyoedd dwethaf. Cliciwch yma i'w gwylio a chael ysbrydoliaeth.

Am fwy o wybodaeth cofiwch gysylltu Cardiff@intofilm.org

 

 

Got Some Feedback?

We love to hear how educators have used our resources.

Contact us

Updating our resources

We have developed a large catalogue of educational resources since launching in 2013, and some references and terminology will inevitably have dated as society and language evolves. We are aware of this and will be updating resources when our production schedule allows.

How Do Into Film Clubs Work? header

How do Into Film Clubs work?

Find out more about what's involved in running your very own Into Film Club.

Into Film CPD Training (Bolton)

Training

Learn how to make the most of film in education with our training programme.

What our educators say

"The Filmmaking Guides have been invaluable in helping novice filmmakers, from ensuring their story is well told, to thinking about light, camera angles and editing."